You are here: Home > Advice > Advice Booklets > Bwlio – sut i ymateb (Cymru)

Bwlio – sut i ymateb (Cymru)

Young Boy in a Stripy TopMae llawer o blant yn cael eu bwlio yn yr ysgol, ac mae hyn yn gallu achosi pryder i rieni. Yn aml fe fydd galwad ffôn i’r ysgol yn ddigon i wneud yn siwr bod y bwlio yn dod i ben, ond weithiau bydd rhieni yn teimlo bod angen i’r ysgol wneud mwy. Mae’r canllaw yma yn dangos sut i ddweud wrth yr ysgol am y bwlio, ac yn rhoi rhywfaint o syniadau am bethau y gall yr ysgol eu gwneud.

Yn y daflen wybodaeth hon, rydyn ni’n defnyddio rhaid pan fo’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i rywbeth ddigwydd a dylai pan fo’r Cynulliad Cenedlaethol yn disgwyl y bydd rhywbeth yn digwydd.

Cam 1: Beth Yw Bwlio?

Mae bwlio yn rhywbeth sy’n fwriadol i frifo, ac sy’n digwydd o hyd.
Fe all bwlio fod yn uniongyrchol: corfforol a/neu ar lafar.
Fe all bwlio fod yn anuniongyrchol: gadael plentyn allan neu beidio â siarad â nhw.

Enghreifftiau o fwlio:

Taro, cicio, herio, galw enwau a jôcs hiliol, homoffobig neu rywiaethol, sibrwd o flaen rhywun, dweud straeon cas am rywun, eu cloi i mewn neu allan o stafelloedd, anfon nodiadau neu negeseuon testun cas, ysgrifennu pethau ar waliau am bobl, anwybyddu pobl neu eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn gemau.

Mae bwlio yn aml yn gudd ac mae’n cael ei wneud yn fwriadol er mwyn brifo. Mae’n cael ei ddechrau gan y plentyn sy’n bwlio. Pan fydd disgyblion sydd gyda’r un grym, yr un niferoedd a’r un cryfder yn ymladd neu’n dadlau o bryd i’w gilydd, nid bwlio yw hynny.

Ble mae’n gallu digwydd?

Ar y ffordd i’r ysgol neu ar y ffordd o’r ysgol, ar fuarth yr ysgol, yn y toiledau, yn y dosbarth neu ar y coridorau, yn ystod cinio ysgol.

Sut deimlad yw cael eich bwlio?

Mae bwlio yn boenus! Mae’n brifo, yn annymunol a brawychus. Fe all arwain at ofni’r ysgol ac mae’n tanseilio hyder plant. Mae plant yn aml yn teimlo’n wan a heb gyfaill yn y byd ac yn aml yn meddwl mai eu bai nhw yw’r bwlio. Os na fydd rhywun yn stopio’r bwlio, bydd y plant yn teimlo’n ddiymadferth oherwydd nad oes neb i’w hamddiffyn.

Pwy sy’n cael ei fwlio?

Mae llawer o blant yn cael eu bwlio rywbryd neu’i gilydd. Weithiau bydd rhai o’r plant sy’n cael eu bwlio yn wahanol mewn rhyw ffordd, ond yn aml does dim gwahaniaeth. Yn gyffredinol y disgyblion sy’n bwlio yw’r broblem, nid y plentyn sy’n cael ei fwlio.

Beth all ddigwydd i blant sy’n cael eu bwlio?

Fe all eu gwaith ysgol ddioddef. Gall pryder ac ofn arwain at salwch, gwrthod mynd i’r ysgol a chwarae triwant. Weithiau bydd y plentyn sy’n cael ei fwlio yn cael ei feio neu ei gosbi gan yr ysgol am ymladd yn ôl. Gall bwlio effeithio ar gyfeillgarwch, chwarae a hobïau, ac mae’n bosib na fydd plant eisiau cymysgu ag eraill. Weithiau bydd plant yn mynd yn ddigalon iawn a bob blwyddyn bydd rhai pobl ifanc yn cyflawni hunanladdiad oherwydd bwlio.

Os ydych yn credu bod eich plentyn chi yn cael ei fwlio, y cam nesaf i chi yw siarad â nhw, yna siarad â’r ysgol ac o bosib ddweud beth ydych chi’n teimlo y gallai’r ysgol ei wneud ar gyfer eich plentyn chi.

Boy writing in a school bookCam 2: Beth Mae’r Cynulliad Cenedlaethol Yn Ei Ddweud.

Rhaid i fwlio fod yn rhan o bolisi ymddygiad yr ysgol. Dylai strategaethau gwrthfwlio effeithiol fod â rhan ganolog yn y polisi, gydag adrannau ar aflonyddu hiliol a rhywiol, a dylai gynnwys amser chwarae ac amser egwyl. Dylai ysgolion annog disgyblion i roi gwybod am fwlio i ddisgyblion hyˆn neu staff. Dylai’r prosbectws ddweud sut i roi gwybod i staff am fwlio. Dylai staff fod ar eu gwyliadwriaeth rhag bwlio a gweithredu’n gyflym. Dylai ysgolion gofnodi, adrodd a monitro pob digwyddiad hiliol.

Mae Cylchlythyr 3/99 Cynnal Disgyblion a Chynhwysiant Cymdeithasol yn rhoi mwy o fanylion am y cyfrifoldebau yma.

Cam 3: Paratoi Adroddiad Bwlio.

Cyn cael gair â’r ysgol, ceisiwch fod mor glir â phosib am fanylion yr hyn a ddigwyddodd.

Dechreuwch yn fras gyda’r rhestr yma am fwlio. Ceisiwch gofio pob digwyddiad o fwlio a cheisiwch gofio’r holl fanylion:

  • Beth ddigwyddodd?
  • Pwy wnaeth hyn?
  • Pwy welodd hyn?
  • Sut gwnaeth hyn effeithio ar eich plentyn ar y pryd?
  • A oedd yna unrhyw effeithiau wedyn? Wnaethoch chi ddweud wrth yr ysgol?
  • Beth yn union wnaeth yr ysgol?
  • Pryd ddigwyddodd hyn? – y diwrnod a’r amser.
  • A wnaeth pethau wella, aros yr un peth, neu waethygu?

Nawr ysgrifennwch restr o ddigwyddiadau yn nhrefn dyddiadau gan roi’r holl fanylion. A oes yna batrymau yn dod i’r amlwg? Os oes, gwnewch nodyn o hynny. Beth ydych chi’n meddwl allai ddigwydd os na fydd y bwlio yn dod i ben? Mae hyn yn bwysig iawn.

Os ydych yn meddwl y bydd y bwlio yn mynd yn waeth, dywedwch pam a sut y gallai hynny effeithio ar eich plentyn:

  • Yn yr ysgol?
  • Yn eu gwaith ysgol?
  • Gyda’r teulu?
  • Gyda phobl eraill?
  • Ynddynt eu hunain?

Weithiau mae plant yn poeni y bydd y bwlio yn gwaethygu os bydd yr ysgol yn siarad â’r disgyblion sy’n bwlio. Siaradwch â’ch plentyn cyn siarad â’r ysgol.

Nawr rhowch bopeth mewn adroddiad bwlio.

Adroddiad am fwlio.

Mae fy mhlentyn yn: {Disgrifiwch eich plentyn mewn ychydig linellau. Os ydyn nhw wedi newid, dechreuwch trwy ddweud sut roedd eich plentyn yn arfer bod cyn i’r bwlio ddechrau a sut mae eich plentyn nawr.}

Bwlio a ddigwyddodd hyd yma: {Ychwanegwch bopeth rydych wedi’i nodi yng ngham 3.}

Rydw i wedi sylwi ar batrymau yn y bwlio: {Disgrifiwch nhw.}

Os na fydd hyn yn stopio rwy’n poeni y bydd: {Ychwanegwch eich holl bwyntiau.}

(Os ydych yn meddwl ei bod yn bosib na fydd yr ysgol yn eich credu: Oes gennych chi unrhyw ffotograffau? Oes yna unrhyw un arall yn gallu cadarnhau hyn? Os oes, gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu adroddiad. Peidiwch ag aros am yr adroddiadau cyn cysylltu â’r ysgol.)

Cam 4: Ysgrifennu At Yr Ysgol.

Er mwyn gwneud yn siwr nad oes unrhyw gamddealltwriaeth, ysgrifennwch at yr ysgol, disgrifiwch y bwlio a gofynnwch am gyfarfod gan ddefnyddio’r llythyr enghreifftiol yma. Os yw’r ysgol yn cael ei rheoli gan y gymuned neu’n wirfoddol, anfonwch gopi at y Cyfarwyddwr Addysg hefyd yn yr awdurdod addysg lleol.

Dyddiad:

Annwyl {enw athro/athrawes neu’r pennaeth},

Rwy’n credu bod fy mab/merch yn cael ei fwlio/bwlio. Mae hyn yn achosi poen meddwl mawr iddo/iddi. Hoffwn drefnu i gyfarfod â chi i drafod beth all yr ysgol ei wneud i roi stop ar y bwlio.

(Os ydych wedi siarad â’r ysgol o’r blaen) Rwyf wedi siarad â’r ysgol am fy mhlentyn yn cael ei fwlio {rhowch enw’r person fu’n siarad efo chi, a dyddiadau} ond nid yw’r ysgol wedi gwneud unrhyw beth / nid yw’r bwlio wedi stopio / mae’r bwlio yn waeth. (Defnyddiwch unrhyw un o’r pwyntiau yma neu ysgrifennwch eich pwynt eich hun).

Rwy’n cynnwys adroddiad am y bwlio, sy’n rhoi manylion y pethau sydd wedi digwydd. (Edrychwch ar gam 3).

(Efallai y byddwch eisiau awgrymu beth y gallai’r ysgol ei wneud ar gyfer eich plentyn – i gael syniadau darllenwch gamau 7 ac 8). Er mwyn rhoi stop ar y bwlio, rwy’n teimlo y gallai’r ysgol...

Rwy’n deall bod gan yr ysgol a’r (ychwanegwch ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion) AALl ddyletswydd gofal tuag at fy mhlentyn. Os na fydd y bwlio’n stopio, rwy’n poeni’n fawr am yr effaith arno ef/arni hi.

Hoffwn gael copi o gofnod ysgol fy mhlentyn. A wnewch chi roi’r cais hwn gerbron Cadeirydd y Llywodraethwyr. Hoffwn gael copïau o bolisïau ymddygiad a gwrthfwlio yr ysgol.

(Os nad yw’r ysgol yn gwneud y pethau y mae’n rhaid iddi eu gwneud neu y dylai eu gwneud, rhowch fanylion. (Edrychwch ar gam 2)).

Rwyf ar gael ar gyfer cyfarfod ar {rhowch ddyddiadau}.

Hoffwn ddod â ffrind gyda mi {rhowch eu henw}.

Yr eiddoch yn gywir,
{eich enw}

Cam 5: Cwrdd â’r Ysgol.

Mae rhieni yn aml yn poeni am gwrdd ag athrawon. Os gwnewch chi baratoi yn ofalus, mae yna well gobaith y bydd y cyfarfod yn ddefnyddiol.

Cyn y cyfarfod:

  • Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau.
  • Nodwch unrhyw bwyntiau defnyddiol o bolisïau’r ysgol.
  • Marciwch lle’r ydych yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad eich plentyn.
  • Casglwch unrhyw adroddiadau defnyddiol.

Yn y cyfarfod:

Mae llawer o ysgolion yn cymryd pryderon y rhieni o ddifrif ac yn gweithredu’n gyflym a bydd y bwlio’n dod i ben, ond weithiau bydd rhieni’n teimlo na wnaeth athrawon wrando ar eu pryderon na gadael iddyn nhw egluro. Mae rhai rhieni yn dweud wrth ACE na wnaethon nhw ddeall yr holl bwyntiau a ddywedodd yr athrawon.

Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth:

  • Ewch â chopi o’ch llythyr a’ch adroddiad bwlio, a rhestr o bryderon, cwestiynau a phwyntiau.
  • Darllenwch eich adroddiad a’ch holl bwyntiau neu gwestiynau ychwanegol.
  • Ticiwch bob pwynt neu gwestiwn wrth iddo gael ei ateb er mwyn gwneud yn siwr bod y cyfan yn cael ei drafod, a gwnewch nodyn o’r pethau sy’n cael eu dweud.
  • Peidiwch â bod ofn mynd yn ôl at bwynt os nad ydych yn teimlo eich bod wedi cael ateb llawn.
  • Os nad ydych yn deall rhywbeth, gofynnwch am esboniad nes byddwch yn deall.
  • Ewch yn ôl dros y pwyntiau ar ddiwedd y cyfarfod fel bod pawb yn deall ei gilydd.

Ar ôl y cyfarfod:

Anfonwch gopi o’ch nodiadau at yr ysgol er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn deall y pethau a gafodd eu cytuno.

Cam 6: Os Ydych Yn Anfodlon â’r Cyfarfod Neu Os Byddwch Yn Ysgrifennu At Rywun Sy’n Gwrthod Cwrdd â Chi.

Fe allech chi ofyn am gyfarfod gyda rhywun uwch yn yr ysgol neu fe allech chi osod eich dyddiad personol eich hun ar gyfer mynd yn ôl i’r ysgol os na fydd y bwlio yn stopio, hefyd fe allech chi gadw dyddiadur bwlio (edrychwch ar Gam 9), neu fe allech chi ystyried cwyno neu gymryd camau cyfreithiol (edrychwch ar Gam 11).

Cam 7: Gweithredu – Yr Ysgol Yn Delio â’r Bwlio.

Yn y rhan fwyaf o achosion mae’n well os bydd yr ysgol yn ceisio newid yr ymddygiad bwlio. Gall ysgolion wneud hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Mewn rhai ysgolion, efallai y bydd athro/athrawes yn gofyn i’ch plentyn ddisgrifio sut mae’n teimlo. Yna bydd yr athro/athrawes yn defnyddio geiriau’r plentyn neu lun i ddangos i rai o’u cyd-ddisgyblion (gan gynnwys yr un sy’n bwlio) sut mae eich plentyn yn teimlo. Fe fydd yr athro/athrawes yn gofyn i’r lleill helpu eich plentyn i deimlo’n hapusach a diogel. Weithiau mae hon yn cael ei galw’n ymdriniaeth 'dim bai'.

Mewn ysgolion eraill bydd yr athro/athrawes yn siarad â’r plentyn sy’n bwlio ac o bosib yn gweithredu. Dyma rai o’r pethau y gallai’r ysgol roi cynnig arnynt:

  • Gofyn i’r sawl a fu’n bwlio ymddiheuro wrth eich plentyn.
  • Eu cadw i mewn amser egwyl neu amser cinio.
  • Eu symud i ran wahanol o’r dosbarth.
  • Peidio â gadael iddyn nhw fynd i rai rhannau o’r ysgol.
  • Rhoi gwaith arbennig iddyn nhw, fel ysgrifennu stori am fwlio a sut mae hynny’n gallu brifo.
  • Eu rhwystro rhag mynd ar drip ysgol.
  • Eu symud i ddosbarth gwahanol.
  • Eu cadw i mewn (detention).

Os yw’r bwlio yn ddifrifol:

  • Gwaharddiad am gyfnod penodol neu’n barhaol.

Mae plant sy’n bwlio yn aml yn anhapus neu’n cael eu bwlio eu hunain. Fe all helpu’r disgybl ei hun atal y bwlio. Os yw eu hymddygiad yn wael yn gyffredinol, efallai fod ganddynt anghenion addysgol arbennig sy’n gofyn am help arbennig. Gall yr ysgol siarad â rhiant y disgybl. Gallant ofyn i chi fod yno, ond allan nhw ddim eich gorfodi. Gallwch ofyn am gael gwybod beth ddigwyddodd ond efallai na chewch chi mo’r manylion yn llawn.

Cyngor ACE:

Mae’n rhesymol i chi gael gwybod beth fydd yr ysgol yn ei wneud. Os ydych yn meddwl y gallai achosi problemau i’ch plentyn –dywedwch hynny.

Cam 8: Gweithredu – Yr Ysgol Yn Cefnogi Eich Plentyn.

Yn aml bydd disgyblion sy’n cael eu bwlio yn dioddef yn dawel am amser hir neu ni fydd pobl yn eu cymryd o ddifrif pan fyddan nhw’n cwyno.

Mae’n bwysig bod yr ysgol yn:

  • Dangos i’ch plentyn eu bod yn cymryd y bwlio o ddifrif.
  • Dweud wrth eich plentyn beth maen nhw’n mynd i’w wneud.
  • Cytuno â’ch plentyn pa athro/athrawes y gallan nhw fynd atynt os bydd unrhyw beth arall yn digwydd.
  • Gwneud yn siwr bod pob aelod o staff yn cadw llygad ar y disgyblion, y lleoedd a’r adegau pan mae bwlio wedi digwydd.
  • Gwnewch yn siwr bod yr ysgol yn gwybod os yw eich plentyn yn ofni y gallai’r bwlio waethygu oherwydd i chi gwyno.

Fel rhan o’r gefnogaeth i’ch plentyn, fe allai’r ysgol gyfan fynd i’r afael â bwlio. Os nad oes polisi gwrthfwlio, dyma’r amser i ysgrifennu polisi o’r fath, gan gynnwys yr ysgol gyfan yn y drafodaeth.

Beth sydd wedi gweithio mewn ysgolion:

  • Mae polisïau gwrthfwlio yn aml yn helpu pawb i ddeall beth yw bwlio – ffordd dda o ddechrau yw gofyn i bob disgybl beth sy’n rhoi loes i blant neu’n brifo plant.
  • Mae bocs bwlio yn gallu gweithio’n dda – mae’r disgyblion yn gallu rhoi nodyn neu lythyr cyfrinachol yn y bocs i roi gwybod am unrhyw fwlio. Mae’n iawn dweud wrth rywun am y bwlio.
  • Mae cael gwasanaeth boreol neu drafodaethau dosbarth am fwlio yn dangos bod yr holl ysgol yn erbyn ymddygiad bwlio.
  • Gellir defnyddio drama – naill ai gyda’r disgyblion neu grwˆp theatr allanol.
  • Fe all posteri wedi’u gwneud gan y disgyblion fod yn effeithiol iawn.
  • Mewn rhai ysgolion mae defnyddio disgyblion hyˆn fel mentoriaid yn gweithio’n dda, i roi cefnogaeth i blant sy’n cael eu bwlio a siarad â’r rhai sy’n gwneud y bwlio.

Cam 9: Cadw Dyddiadur Bwlio.

Mae’n syniad da cadw dyddiadur hyd nes bod y bwlio wedi dod i ben. Ysgrifennwch bob digwyddiad mor fuan â phosib ar ôl iddo ddigwydd:

  • Dyddiad, beth ddigwyddodd?
  • Pwy wnaeth?
  • Pwy welodd?
  • Sut gwnaeth hynny effeithio ar eich plentyn ar y pryd?
  • A wnaeth eich plentyn ddweud wrth unrhyw un yn yr ysgol: beth ddywedodd neu beth wnaeth y person hwnnw a pha effaith gafodd hynny?
  • A fu unrhyw effeithiau wedyn?
  • A oes gennych chi unrhyw bryderon newydd nawr?

Dywedwch wrth yr ysgol bob tro. Ysgrifennwch beth mae’ r ysgol ei ddweud neu’n ei wneud ac unrhyw effaith y mae hynny yn ei gael. Os bydd eich plentyn yn cael ei anafu, tynnwch ffotograffau ac ewch i weld eich meddyg.

Rhowch y dyddiadur gyda’ch Adroddiad Bwlio.

Cam 10: Mewn Argyfwng.

Os yw’r bwlio mor ddifrifol nes eich bod yn poeni am ddiogelwch eich plentyn, yn feddyliol neu’n gorfforol, fe fyddwch eisiau trefnu cyfarfod gyda’r pennaeth yn gyflym iawn. Anfonwch y llythyr rydyn ni’n sôn amdano yng ngham 4 a dywedwch eich bod yn poeni am ddiogelwch eich plentyn a pham.

Os yw eich plentyn ofn mynd i’r ysgol neu os ydych yn pryderu cymaint am eu diogelwch nes eich bod wedi penderfynu peidio â’u hanfon i’r ysgol nes y bydd y bwlio wedi’i ddatrys, cofiwch - yn gyfreithiol – bod yn rhaid i chi anfon eich plentyn i’r ysgol yn rheolaidd. Os nad ydyn nhw’n ddigon da i fynd, ewch i gael nodyn salwch gan y meddyg i’w anfon gyda’r llythyr.

Cam 11: Mynd â Materion Ymhellach.

Mae ACE yn aml yn clywed gan rieni sy’n dweud bod gweithredu gan yr ysgol wedi rhoi stop ar y bwlio. Ond, os bydd y bwlio yn parhau ac os byddwch yn teimlo nad yw’r pennaeth yn gwneud digon, fe ddylech chi wneud cwyn y gallai’r ysgol fod yn methu yn ei dyletswydd gofal tuag at eich plentyn.

Dilynwch y drefn gwynion. Rhowch gopi o’ch llythyr gwreiddiol a’ch Adroddiad Bwlio (camau 3 a 4) gyda’r llythyr cwyno. Os nad oes gan yr ysgol drefn gwynion, ysgrifennwch at Gadeirydd y Llywodraethwyr gyda chopi o’ch llythyr a’ch Adroddiad Bwlio. Y mae gan eich awdurdod addysg lleol ddyletswydd gofal tuag at ddisgyblion yn y rhan fwyaf o ysgolion hefyd, felly anfonwch gopi atyn nhw hefyd.

Fe allech chi ofyn i gyfreithiwr ysgrifennu eich llythyr cwyno.

Os bydd yr ysgol yn dal i wneud fawr ddim, fe allech chi gwyno wrth Weinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Os yw’r bwlio - naill ai’n gorfforol neu ar lafar - yn ddifrifol dros ben, fe allech chi gysylltu â’r heddlu. Y gyfraith y gallan nhw ei defnyddio yn erbyn disgyblion sy’n ddeg oed a throsodd yw cyfreithiau yn erbyn ymosod neu aflonyddu (y deddfau gwrthymlid).

Os na wnaiff yr heddlu weithredu, fe allech chi gael gair â chyfreithiwr ynghylch mynd i gyfraith. Fe allai hyn gynnwys hawliad am esgeulustod yn erbyn yr ysgol a’r awdurdod addysg lleol am fethu yn eu dyletswydd gofal. Yr achos cyntaf ble cafodd awdurdod addysg lleol ei erlyn am esgeulustod oherwydd bwlio oedd ym mis Hydref 2000; dyfarnodd y llys £1,500.

ACE is able to offer this booklet online for free thanks to support from the Welsh Assembly. If you have found it helpful, please consider making a donation to support ACE's work.

Page last updated: July 2, 2008